Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin: Cymru
Mae’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yng Nghymru yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ac mae’n golygu mai eich fferyllfa leol yw’r lle cyntaf i gael cyngor a thriniaeth arbenigol ar gyfer mân anhwylderau, fel nad oes angen gweld eich meddyg teulu.
Mae’r gwasanaeth hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o gyflyrau cyffredin gan gynnwys acne, llau pen, dolur annwyd, hemoroidau a dolur gwddf.
Dim apwyntiad meddyg? Dim problem!
Mae cael arbenigwr wrth law yn amhrisiadwy er mwyn cael cyngor a thriniaeth gofal iechyd, ac mae ein fferyllwyr yma i helpu! Gyda blynyddoedd o brofiad a thoreth o wybodaeth, mae ganddynt yr atebion i’ch cwestiynau. Mae gennym amrywiaeth eang o driniaethau ar gael dros y cownter, ac ar gyfer anhwylderau cyffredin sydd wedi’u cynnwys yn y gwasanaeth gallwn hyd yn oed roi meddyginiaeth cryfder presgripsiwn heb apwyntiad gyda’ch meddyg teulu.
Cael cyngor a thriniaeth mewn 3 cham hawdd
Dewis y broblem y mae angen cyngor ar ei chyfer
Siarad â’n fferyllydd
Derbyn cyngor a dewis o driniaethau
Cwestiynau Cyffredin
Pwy sy’n gymwys ar gyfer y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin: Cymru?
+
Gallwch gael cyngor a thriniaeth ar gyfer y cyflyrau iechyd dan sylw mewn fferyllfeydd ledled Cymru os ydych chi’n aros yng Nghymru am o leiaf 24 awr ar ôl ymweld â’n fferyllfa.
Pryd ddylwn i ymweld â fy meddyg teulu?
+
Ar adegau, bydd ein fferyllydd yn argymell eich bod yn mynd i weld eich meddyg teulu i gael rhagor o gymorth. Os bydd rhywbeth yn teimlo o’i le yn ofnadwy, dylech naill ai ffonio 111 neu 999.
Ydy fy fferyllydd yn gymwys?
+
Mae fferyllwyr yn gymwys i ddarparu cyngor, cynnal y driniaeth angenrheidiol, a rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn pan fo angen. Os bydd angen rhagor o gyngor a thriniaeth arnoch, bydd eich fferyllydd yn eich cyfeirio at eich meddyg teulu.
Alla i weld fy Meddyg Teulu er hynny?
+
Cafodd y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin ei greu fel dewis cyfleus arall yn lle gweld eich meddyg teulu ar gyfer anhwylderau cyffredin, a hynny er mwyn arbed amser a’ch galluogi i gael gafael ar y gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnoch. Mae meddygon teulu yn dal i allu eich gweld ynghylch unrhyw un o’ch pryderon ond efallai y bydd yr amseroedd aros yn hirach.
Rydw i’n gweithio 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener; ydw i’n gallu cael apwyntiad y tu allan i’r dyddiau/oriau hyn?
+
Rydym yn deall ei bod hi’n gallu bod yn anodd cael yr amser i ymweld â’ch fferyllfa pan fyddwch chi’n gweithio’n llawn amser. Dyna pam mae rhai o’n fferyllfeydd ar agor yn hwyrach, ac ar ddydd Sadwrn.
Rhagor o wybodaeth
Isod, ceir rhestr o’r cyflyrau sy’n dod o dan y gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yng Nghymru.
More from Rowlands Pharmacy
Find your local pharmacy
We have over 350 stores all over the UK, find your nearest one using our store finder.
Find a pharmacyHey Pharmacist
Keep track and order your NHS repeat prescription through the free Hey Pharmacist app.
Find out more